Neidio i'r prif gynnwys

Corws a Cherddorfa WNO | Heddwch ac Angerdd

Dyddiad(au)

21 Ebr 2024

Amseroedd

15:00 - 17:00

Lleoliad

Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AH

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Prynhawn o gampweithiau corawl a harddwch gobeithiol

Fauré Cantique de Jean Racine
Schumann Symffoni Rhif 4
Mozart Requiem

Ymgollwch yng nghyfansoddiad corawl hyfryd a dwys Fauré, Cantique de Jean Racine. Yn llawn urddas, ceinder a symlrwydd pur, mae Corws WNO yn camu i’r llwyfan i ganu’r darn clodwiw hwn, gan berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus.

Profwch lif di-dor o gerddoriaeth angerddol a thanbaid gyda Symffoni Rhif 4 Schumann. Yn torri’n rhydd o’r traddodiad symffonig, mae’r cylch parhaus hwn o ddrama yn cynnwys dwyster nodweddiadol y cyfansoddwr gyda fflachiadau o ysgafnder a llawenydd. Heddiw caiff ei hystyried fel y mwyaf rhamantus o’i hoff symffonïau.

I orffen y prynhawn, taith o ansicrwydd i obaith gyda champwaith diamser Mozart, Requiem. Yn fwrlwm o’r un theatr a dynoliaeth â’i weithiau llwyfan, mae Corws WNO yn cael cwmni’r unawdwyr Sophie Bevan, Kayleigh Decker, Egor Zhuravskii a James Platt.

Tua un awr a 55 munud, gan gynnwys un egwyl

Cyflwynwyd fel rhan o Gyfres Caerydd Glasurol

wno.org.uk/cerddorfa
#WNOorchestra