Beth wyt ti'n edrych am?
GDGC · CreativeMornings/Caerdydd | CURRENT gyda Bethan Elfyn
Dyddiad(au)
02 Hyd 2026
Amseroedd
08:30 - 10:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ar gyfer thema’r mis hwn, gadewch i ni hwylio ar y y tonfeydd radio, a dysgu ychydig am hanes radio a darlledu Cymru! Mae’n bleser gennym gyhoeddi sgwrs a chyfweliad gyda Bethan Elfyn, sy’n rhychwantu gyrfa dros dri degawd yn y BBC. ‘Ar hyn o bryd’ yn Uwch Gynhyrchydd Cynnwys sy’n rhedeg prosiect cerddoriaeth Gorwelion (partneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau) a chyflwynydd cerddoriaeth newydd ar BBC Radio Wales. Mae’n adnabyddus fel curadur digwyddiadau, hyrwyddwr, cyflwynydd gwyliau ac fel y cyflwynydd benywaidd cyntaf o Gymru ar BBC Radio One.
Bydd Marconi, nostalgia Cymru’r 90au, a ble mae radio a cherddoriaeth ar hyn o bryd yn arwain y sgwrs rhwng Bethan a chydweithiwr yn y BBC, y cynhyrchydd Gorwelion, a chyn-gyflwynydd cerddoriaeth S4C, Leni Hatcher.
Byddwn yn gorffen y sesiwn gyda rhestr chwarae wedi’i pharatoi o gerddoriaeth newydd, gan weithio gyda’r thema!