Beth wyt ti'n edrych am?
Cwm Rag | Nos Galan Gay-AF
Dyddiad(au)
26 Hyd 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Am un noson yn unig mae cwfen drag gorau Cymru CŴM RAG wedi atgyfodi.
Ac maen nhw’n FYW!
Maen nhw yma i ddathlu Nos Galan Gaeaf a hela am bethau sy’n gwneud twrw gefn nos. Os byddwch chi’n ymweld â’r crypt, byddwch yn barod am…
- Ferched ffiaidd
- Brenhinoedd drag
- Lleisiau fampiraidd
…a rhai o’r breninesau drag mwyaf brawychus rydych chi erioed wedi cwrdd â nhw.
Nawr goleuwch gannwyll a dywedwch CŴM RAG deirgwaith yn y drych… Rydyn ni tu ôl i chi.