Neidio i'r prif gynnwys

Dear Evan Hansen

Dyddiad(au)

29 Ebr 2025 - 03 Mai 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae heddiw yn mynd i fod yn ddiwrnod da. A dyma pam…

Dewch i gwrdd ag Evan: plentyn ysgol uwchradd pryderus sydd ond eisiau ffitio mewn. Y broblem yw, ar ei ffordd i ffitio mewn, gwnaeth e ddim dweud y gwir. A nawr mae’n rhaid iddo roi’r gorau i fywyd doedd e erioed wedi breuddwydio y byddai’n ei gael. Wrth i ddigwyddiadau ddwysáu a’r gwirionedd ddod i’r amlwg, mae Evan yn wynebu dydd barn gyda’i hun a phawb o’i gwmpas.

Yn llawn rhai o ganeuon theatr gerdd mwyaf y degawd diwethaf, mae gan Dear Evan Hansen sgôr gan Benj Pasek a Justin Paul (cyfansoddwyr arobryn The Greatest Showman), llyfr gan Steven Levenson a mwy o wobrau y gellir eu rhestru yma. Oce, wnawn ni sôn am rai: Gwobr Tony® am y Sioe Gerdd Orau, Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau, Gwobr Grammy® am Sgôr Theatr Gerdd Orau… nid yw nac yma nac acw ond mae’r rhestr yn parhau!

Gyda chyfarwyddyd gan Adam Penford (Cyfarwyddwr Artistig Nottingham Playhouse), mae’r cynhyrchiad newydd sbon yma yn nodi’r tro cyntaf y bydd ffenomenon Broadway a’r West End yn teithio’r DU ac Iwerddon. Felly ble bynnag ydych chi, bydd taith Dear Evan Hansen yn dod i theatr agos o hydref 2024.