Neidio i'r prif gynnwys

DEPOT | Parti Mawr i Wylio Rownd Derfynol Eurovision

Dyddiad(au)

11 Mai 2024

Amseroedd

18:00 - 23:00

Lleoliad

DEPOT Cardiff, Curran Embankment, Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd hoff leoliad digwyddiadau warws Caerdydd yn cael ei drawsnewid yn ganolbwynt parti mawr Eurotrash am un noson yn unig, gyda dangosiad rownd derfynol Cystadleuaeth Eurovision am yr ail flwyddyn yn DEPOT, ar ddydd Sadwrn, 11 Mai 2024.

Gyda Chystadleuaeth Eurovision 2024 (y 68ain rhifyn o’r gystadleuaeth enwog) yn cael ei chynnal yn Malmö, Sweden, yn dilyn buddugoliaeth Sweden yn 2023 gyda’r gân gyfareddol “Tattoo” gan Loreen, dyma gipolwg ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ym mharti Eurovision DEPOT – sy’n addo bod yn noson o gerddoriaeth, hwyl a dathliad byd-eang digyffelyb:

Dewch â’ch Criw Eurovision ynghyd: Dewch â’ch ffrindiau ynghyd, dewiswch eich hoff wlad, a sefyll gyda nhw drwy’r nos. Mae’n amser i ddangos rhywfaint o gariad tuag at yr hen Brydain Fawr!

Ffrydio Byw ar y Sgrin Fawr: Gwyliwch Gystadleuaeth Eurovision 2024 yn fyw ar ein sgrin enfawr, gan ymgolli yng nghyffro a hudoliaeth cystadleuaeth ganeuon fwyaf y byd.

Bwyd Stryd Go Iawn: Mwynhewch fwyd stryd go iawn ac ymgollwch ym mlasau diwylliannau gwahanol wrth i chi fwynhau’r dathliadau Eurovision.

Dewis Byd-eang o Ddiodydd: Blaswch ddiodydd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys gwinoedd Ffrengig, sangrias Sbaenaidd, cwrw Almaenig, Ouzo Groegaidd, a fodca Ffinnaidd.

Gwobrau ar gyfer y Gwisgoedd Ffansi Gorau! Gwisgwch i greu argraff a chefnogi tîm Prydain Fawr neu eich gwlad ddewisol – bydd gwobrau ar y noson am yr ymdrechion mwyaf creadigol!