Beth wyt ti'n edrych am?
Dirty Dancing
Dyddiad(au)
20 Hyd 2026 - 24 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Dirty Dancing yn dychwelyd i Gaerdydd fel rhan o daith o amgylch y DU ac Iwerddon. Yn byrlymu â cherddoriaeth wefreiddiol, emosiwn pur a dawnsio hudolus a nwydus.
Mae miliynau o bobl ledled y byd wedi mwynhau’r sioe gerdd hynod boblogaidd yma sy’n dilyn stori glasurol Baby a Johnny, dau enaid annibynnol o ddau fyd gwbl wahanol, sy’n dod at ei gilydd yn ystod haf mwyaf heriol a chyffrous eu bywydau.
Dewch i weld y ffilm boblogaidd o flaen eich llygaid gyda’r sioe fyw wych, emosiynol a champus yma.
Mae’r stori eiconig yn cynnwys y caneuon hynod boblogaidd ‘Hungry Eyes’, ‘Hey! Baby’, ‘Do You Love Me?’ a’r drawiadol ‘(I’ve Had) The Time Of My Life’, a chast o ddawnswyr anhygoel.