Beth wyt ti'n edrych am?
Empereur
Dyddiad(au)
01 Mai 2024 - 19 Mai 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae BOCS yn cyflwyno dangosiad cyntaf Prydain o Empereur, sef profiad naratif rhyngweithiol mewn realiti rhithwir, sy’n gwahodd y defnyddiwr i deithio i ymennydd tad sy’n dioddef ag affasia. Dyma stori dyn sydd wedi colli ei allu i siarad, a’i ferch sy’n ceisio cyfathrebu gydag e.
Dyma stori menyw, na chafodd gyfle i nabod y dyn tu ôl i’w thad, sydd nawr yn cael ei guddio gan y salwch yma. Wrth iddi geisio gosod yr hyn sydd ar ôl o’i iaith at ei gilydd, mae’n darganfod bod ei berthynas â geiriau yn gysylltiedig â’i atgofion. Atgofion oes gyfan… Cam wrth gam, cliw ar ôl cliw, byddwn ni’n plymio gyda hi i fyd mewnol y dyn yma, mewn ymgais i ddehongli’r stori nad yw’n gallu ei hadrodd wrthon ni mwyach.
Mewn esthetig unlliw, sy’n debyg i animeiddiad traddodiadol, caiff y stori bersonol yma ei hadrodd gyda naws swreal, gan archwilio affasia fel tir anghysbell.
Mae Empereur yn brofiad barddonol am golli gallu meddyliol, am dreigl amser, ac am y cysylltiadau sydd, er gwaethaf popeth, yn parhau.