Neidio i'r prif gynnwys

Eurovision Watch Party | House of Deviant Takeover

Dyddiad(au)

11 Mai 2024

Amseroedd

19:30 - 23:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Wedi colli allan ar docyn Eurovision? Peidiwch â phoeni, gallwn ni helpu!  

Chi’n meddwl bod Eurovision yn cwiar? Wel, mae hyd yn oed yn fwy cwiar nawr! 

Dyma Eurovision gyda breninesau, coctels a mwy o newidiadau cywair na Mariah Carey adeg y Nadolig. 

Dewch i wylio gyda’r breninesau o House of Deviant lle byddwn ni’n dod ynghyd gyda cherddoriaeth ac yn cefnogi ein hoff wlad, a lle bydd pobl i roi cwtsh i chi pan fyddwn ni’n gweld y DU yn cael nil pwah (je nais parlez vous francais). 

Rhybudd: gall gynnwys anhrefn, gemau yfed a chromosomau ychwanegol.