Beth wyt ti'n edrych am?
Everybody Dance
Dyddiad(au)
15 Hyd 2024
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â Claire Richards, seren Steps, ar gyfer y parti disgo eithaf, EVERYBODY DANCE!
Mae’r daith gyngerdd ddisglair newydd sbon yma yn cynnwys y caneuon dawns a disgo gorau erioed. O Donna Summer i Dua Lipa, Beyonce, Chic, The Weekend, Chaka Kahn, Daft Punk, Whitney, Cher, ABBA a llawer mwy. Canwch, dawnsiwch a dathlwch gyda’n cwmni syfrdanol o ddawnswyr dynamig, cantorion rhagorol a brenhines pop, Claire Richards.
Mae’r cyfuniad o lais pwerus Claire a choctel dynamig o arddulliau dawns gan gynnwys salsa, mambo, jazz, hip hop a hyd yn oed rhôl-sglefrio, yn gyffrous. Mae’r sioe yma yn cystadlu â symudiadau MJ, Britney a hyd yn oed John Travolta gyda chaneuon o’r 70au, 80au, 90au a thu hwnt.
Mae’r caneuon eiconig yn cynnwys I Will Survive – Don’t Start Now – You Should Be Dancing – Le Freak – Lady Marmalade – Everybody’s Free – On the Radio – Euphoria No More Tears (Enough Is Enough) – Could It Be Magic – So Emotional – What a Feeling – Only Girl in the World a llawer mwy.
Mae’n amser gwisgo eich secwinau a phrofi noson o glamor, llais syfrdanol a chaneuon pwerus – paratowch ar gyfer EVERYBODY DANCE!