Beth wyt ti'n edrych am?
Fleetwood Mac’s Rumours gyda Transatlantic Ensemble
Dyddiad(au)
09 Awst 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ar ôl sawl sioe a werthodd allan yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a ledled Lloegr, mae Transatlantic Ensemble yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf yr haf yma.
Byddan nhw’n perfformio albwm Rumours eiconig Fleetwood Mac yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â llwyth o ganeuon eraill adnabyddus Fleetwood Mac. Dewch i brofi un o’r albymau gorau erioed, wedi’i ail-greu yn fyw mewn ffordd dyner a chywir, gan yr ensemble syfrdanol yma o gerddorion a chantorion ifanc talentog.
Mae rhywbeth mor atgofus am yr albwm Rumours – rhywbeth sy’n taro tant gyda phob cefnogwr cerddoriaeth go iawn. Mae wedi bod yn drac sain i fywydau nifer o genedlaethau.
Os ydych chi’n hoff o’r albwm, peidiwch â cholli’r perfformiad aruthrol yma gan ensemble anhygoel. Dewch â’ch llais canu a byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu, am fod y band yma yn syfrdanol!