Beth wyt ti'n edrych am?
Gallifrey Cabaret
Dyddiad(au)
14 Maw 2025 - 15 Maw 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Neidiwch ar fwrdd TARDIS mwyaf cwiar gofod ac amser am noson o ddrag a cabaret cosmig, a’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan y sioe deledu orau yn y bydysawd – DOCTOR WHO.
Ar ein teithiau drwy’r fortecs amrywiaeth, paratowch am noson o adloniant allfydol sy’n cynnwys lein-yp rhyngserol, llawer o syrpreisys a’r holl anhrefn cosmig y gallech chi freuddwydio amdano…
Fel bob amser gyda’r Doctor – disgwyliwch yr annisgwyl…
Mae ein teclynnau fortecs wedi’u gwefru, mae ein sonics yn barod i gael eu sgriwdreifio. Rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r llawr dawnsio, achos does dim un parti fel parti Brenin Amser. Mae’r dyfodol yma, ac mae’n ddyfodol cwiar!