Beth wyt ti'n edrych am?
Gertrude Lawrence: A Lovely Way To Spend an Evening
Dyddiad(au)
27 Ebr 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae seren comedi gerddorol y 1930au yn adrodd ei stori ei hun yn ei geiriau ei hun.
Gyda deialog ddoniol a chyflym sy’n llawn caneuon o Sioeau Amrywiaethol a Rifiw i ganeuon poblogaidd gan Noël Coward a Kurt Weill.
Cabaret theatraidd wedi’i berfformio gan Lucy Stevens gyda’r pianydd Elizabeth Marcus. Wedi’i gyfarwyddo gan yr artist cabaret arobryn Sarah-Louise Young.
Mae perfformiad Lucy yn ymgorffori ysbryd Gertie – menyw ewn a chryf o Clapham a gododd y tu hwnt i nenfwd y dosbarth gweithiol, gan lunio ei gyrfa ar lwyfan ac ar y sgrin nes ei bod yn ei 50au. Mae’r sgript newydd, clyfar a bywiog yma yn cludo’r gynulleidfa o’i phlentyndod yn Clapham i glybiau nos crand Llundain a goleuadau llachar Broadway.
Wedi’i enwebu am Wobr OffFest.