Neidio i'r prif gynnwys

Ghost the Musical

Dyddiad(au)

04 Maw 2025 - 08 Maw 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

“Oh my love, my darling… I’ve hungered for your touch”

Wrth gerdded ‘nôl i’w fflat yn hwyr un noson, mae cyfarfod trasig yn golygu bod Sam yn cael ei lofruddio a’i gariad annwyl Molly yn cael ei gadael ar ei phen ei hun, mewn anobaith ac ar goll yn llwyr. Ond gyda help seicig ffug, mae Sam, sydd wedi’i ddal rhwng y byd yma a’r nesaf, yn ceisio cyfathrebu â Molly gan obeithio ei hachub o berygl difrifol.

Y ffilm Ghost yw un o lwyddiannau mwyaf erioed sinema. Gyda’r diweddar Patrick Swayze ochr yn ochr â Demi Moore a Whoopi Goldberg, dyma oedd y ffilm a wnaeth y mwyaf o arian yn 1990 ac enillodd y sgrin-awdur Bruce Joel Robin wobr Oscar; mae wedi addasu ei sgript ffilm ar gyfer y sioe yma. Mae’r llwyddiant rhyngwladol yn dychwelyd i’r llwyfan, gyda Unchained Melody gan The Righteous Brothers a llawer o ganeuon eraill bendigedig wedi’u cyd-ysgrifennu gan Dave Stewart o Eurythmics.