Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris 2025

Dyddiad(au)

13 Hyd 2025 - 19 Hyd 2025

Lleoliad

Canol y Ddinas Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gan ddathlu ei 19eg flwyddyn, bydd Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris ar ei hanterth rhwng 13 a 19 Hydref 2025. Mae’r ŵyl hon yn dathlu popeth sy’n ymwneud â ffilm, gan bwysleisio a rhoi llwyfan i straeon nad ydynt yn aml yn cael y sylw maen nhw’n ei haeddu yn y cyfryngau prif ffrwd. Bydd rhai o’r ffilmiau hyd yn oed yn cael eu dangos yng Ngŵyl Ffilm Llundain, gan gynnwys ‘Dreamers’ a’r ffilm gloi, ‘Pillion’, felly arbedwch eich hun rhag y daith a dewch i ŵyl Iris yn lle.

Efallai’ch bod yn gofyn i’ch hun: Pam ddylwn i ddod i ŵyl Iris, pan allwn i wylio’r ffilmiau gartref? Mae’r Ŵyl Ffilm yn cynnig mwy na chyfle i wylio’r ffilmiau hyn yn unig, mae’n rhoi cyfle i chi gwrdd â’r dalent o flaen a thu ôl i’r camera, yn ogystal â charwyr ffilm o’r un anian. Ymdrochwch eich hun yng ngŵyl Iris ac ymunwch â’r gymuned.

Dydych chi byth yn gwybod pwy allech chi daro i mewn iddo – yn y gorffennol gallech fod wedi gweld y Fonesig Kelly Holmes neu Russell T Davies. Pwy a ŵyr pwy allech ei weld yn 2025. Ar ben hynny, bydd yr ŵyl yn llawn partïon, sgyrsiau, ac i’r rhai sydd â diddordeb yn yr ochr ymarferol o greu ffilmiau, Diwrnod Diwydiant.

Er ei bod yn ŵyl LHDTC+, mae Iris yn croesawu pawb sy’n caru ffilm, dim ots beth yw eu rhywioldeb neu rywedd, ac mae’r trefnwyr yn falch bod 30% o’r gynulleidfa yn arddel hunaniaeth cydryweddol a heterorywiol. Dywedodd Berwyn Rowlands, sylfaenydd Iris:

“Mae Iris yn ŵyl ffilm, a wnaeth benderfyniad bwriadol i ganolbwyntio ar straeon LHDTC+. I mi, mae Iris wastad wedi bod yn ŵyl ffilm yn gyntaf, sy’n rhoi cyfle i’n cynulleidfa weld straeon y mae’r brif ffrwd weithiau’n eu hanwybyddu. Mae ein cynulleidfa syth yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i rannu straeon LHDTC+ gyda chynulleidfa newydd. Unwaith i chi brofi llawenydd Iris, byddwch chi’n sicr o ddychwelyd.”

 

Pum ffaith allweddol am Iris 2025:

  1. £40,000 yw’r brif Wobr Iris, sydd wedi’i chefnogi gan Sefydliad Michael Bishop.
  2. Mae gan 35 o ffilmiau eu llygaid ar y brif wobr, gyda ffilmiau o Dwrci a Phacistan yn cystadlu am y tro cyntaf.
  3. Mae Iris yn dangos mwy na ffilmiau byrion yn unig, gyda 13 prif ffilm yn cael eu rhoi ar y sgrin hefyd.
  4. Dechreuodd yr ŵyl fel digwyddiad tri diwrnod yn 2007, ac eleni mae’n para wythnos gyfan.
  5. Mae tîm yr ŵyl wedi cynhyrchu 13 ffilm fer gydag enillwyr Gwobr Iris, ac mae dwy arall yn y broses cyn-gynhyrchu.