Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Calan Gaeaf Caerdydd | Ynys Calan Gaeaf
Dyddiad(au)
25 Hyd 2025 - 31 Hyd 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bydd Bae Caerdydd yn trawsnewid yn Ynys Calan Gaeaf – gŵyl Calan Gaeaf i’r teulu yn llawn pwmpenni, anturiaethau a direidi chwareus.
Cyrhaeddwch ar Long Ysbrydion a chamwch i’r lan i fyd o fwganod, cyffro a hwyl i’r teulu. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r Galiwn Suddedig dirgel, Gŵyl yr Esgyrn liwgar, a swyn hydrefol y Pentre Pwmpenni – dim ond rhai o’r anturiaethau sy’n aros i gael eu harchwilio.
Ar y llwyfan, gall teuluoedd fwynhau anturiaethau Jack a Luna yn The Curse of Halloween Island, hwyl fyrlymus Potion Commotion, anhrefn llwyr Slime It Live! a harmonïau cyfnosol y Salem Sisters.
Gyda môr-ladron yn crwydro, bwganod direidus, setiau parod ar gyfer lluniau a phwmpen am ddim i bob plentyn, dyma’r profiad Calan Gaeaf gorau i’r teulu yng Nghaerdydd.
Tocynnau ar werth nawr.