Neidio i'r prif gynnwys

Hairspray

Dyddiad(au)

29 Gorff 2024 - 03 Awst 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Allwch chi ddim stopio EIN curiad – mae HAIRSPRAY YN ÔL AR DAITH!

Mae’r ffenomenon cerddorol rhyngwladol Hairspray yn dychwelyd! Ar ôl torri record swyddfa docynnau a swyno cynulleidfaoedd yn y West End, ar Broadway ac ar y sgrin fawr ers 1988, mae gwaddol y sioe gerdd ddoniol lwyddiannus yma yn amlwg, a nawr rydyn ni’n mynd ar daith arall o amgylch y DU ac Iwerddon.

Croeso i’r 60au, lle mae pawb yn dawnsio i sain newydd sbon! Mae gan ein harwres fywiog Tracy Turnblad wallt mawr, calon fawr a breuddwydion mawr i ddawnsio ei ffordd i fod ar deledu cenedlaethol, ac i mewn i freichiau’r seren Link Larkin. Pan fydd Tracy yn dod yn seren leol, mae’n gallu defnyddio ei henwogrwydd newydd i ymladd dros ryddhad, goddefiant ac undod rhynghiliol yn Baltimore. Ond a all hi gyflawni cydraddoldeb – a chariad Link – heb sbwylio ei gwallt?

Mae’r sioe gerdd ddifyr a chadarnhaol yma yn llawn caneuon bywiog, gwisgoedd disglair a dawnsiau syfrdanol allwch chi ddim helpu ond dawnsio gyda nhw!

Gyda rhai o ganeuon llwyddiannus mwyaf a gorau sioeau cerdd, gan gynnwys Welcome to the 60s, You Can’t Stop The Beat, Good Morning Baltimore a llawer mwy, Hairspray yw’r sioe gerdd ddoniol, lawen a chadarnhaol i bawb!