Beth wyt ti'n edrych am?
Hamilton
Dyddiad(au)
26 Tach 2024 - 25 Ion 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae ffenomenon diwylliannol arobryn Lin Manuel Miranda, Hamilton, yn teithio’r DU am y tro cyntaf erioed, ac mae’n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru dros Nadolig 2024.
Hamilton yw stori sefydlwr America, Alexander Hamilton, mewnfudwr o India’r Gorllewin a ddaeth yn llaw dde George Washington yn ystod y Chwyldro Americanaidd, ac a helpodd i lunio sylfeini’r America rydyn ni’n ei hadnabod heddiw. Mae’r sgôr yn cyfuno hip-hop, jazz, blues, rap, R&B a Broadway – stori America bryd hynny, wedi’i hadrodd gan America heddiw.
Mae gan Hamilton lyfr, cerddoriaeth a geiriau gan Lin-Manuel Miranda; mae wedi’i gyfarwyddo gan Thomas Kail, gyda choreograffi gan Andy Blankenbuehler a goruchwyliaeth gerddorol a threfniannau cerddorfaol gan Alex Lacamoire, ac mae’n seiliedig ar fywgraffiad Ron Chernow o Alexander Hamilton.
Enillydd 11 o Wobrau Tony gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau, 7 Gwobr Olivier, Gwobr Pulitzer 2016 ar gyfer Drama a Gwobr Grammy 2016 ar gyfer yr Albwm Theatr Gerdd Gorau.