Beth wyt ti'n edrych am?
Here You Come Again
Dyddiad(au)
27 Awst 2024 - 31 Awst 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Caneuon poblogaidd Dolly Parton mewn un sioe gerdd anhygoel! Cyn y West End.
Am y tro cyntaf erioed, gellir profi holl ganeuon mwyaf llwyddiannus Dolly Parton gyda’i gilydd mewn comedi gerddorol hwyliog a llawen newydd.
Mae’r sioe gerdd fywiog a theimladwy yma, sy’n cynnwys y caneuon eiconig Jolene, 9 to 5, Islands in the Stream, I Will Always Love You, Here You Come Again a mwy, yn adrodd stori edmygwr mawr y mae ei fersiwn ffantasi o’r eicon rhyngwladol Dolly Parton yn ei helpu drwy gyfnodau anodd.
Gyda’i ffraethineb, hiwmor a chyfaredd, mae Dolly yn addysgu llawer o bethau iddo am fywyd, cariad a sut i godi’ch hun gerfydd eich careiau esgidiau eich hun hyd yn oed os nad oes rheinstonau arnynt! Mae hon yn sioe gerdd sy’n siŵr o wneud i chi wenu.
Cafodd Here You Come Again, sydd wedi cael sawl rhediad llwyddiannus ledled yr Unol Daleithiau, ei hysgrifennu’n wreiddiol gan Bruce Vilanch, yr awdur comedi a chyfansoddwr caneuon sydd wedi ennill dwy wobr Emmy, gyda Gabriel Barre (sydd hefyd yn cyfarwyddo) a Tricia Paoluccio (sydd hefyd yn chwarae Dolly), ac mae bellach wedi cael ei haddasu ar gyfer y DU gan y dramodydd Prydeinig arobryn Jonathan Harvey (Gimme, Gimme, Gimme a Coronation Street).