Neidio i'r prif gynnwys

Hosbis y Ddinas - Blodyn Am Byth

Dyddiad(au)

02 Awst 2025 - 10 Awst 2025

Amseroedd

10:00 - 15:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dathlu bywyd a’n hanwyliaid gyda Chenhinen Pedr Hosbis y Ddinas

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr ymgyrch arobryn, Blodau Am Byth yn ôl ar gyfer 2025. Dewis blodyn eleni yw blodyn cenedlaethol Cymru, sydd i lawer yn symbol o obaith, gwytnwch a dechrau newydd.

Prynwch argraffiad arbennig o #BlodynAmByth i rywun rydych chi’n ei garu i fod yn rhan o rywbeth arbennig yn lleoliad mwyaf eiconig Caerdydd, Castell Caerdydd rhwng 02 a 10 Awst.