Beth wyt ti'n edrych am?
Invisible Ocean
Dyddiad(au)
27 Gorff 2024 - 08 Med 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Paratowch i fwrw i’r dwfn gyda chyfres o brofiadau rhyngweithiol a rennir a fydd yn mynd â chi o dan wyneb y môr i ddatgelu’r cyfrinachau i’n goroesiad ar y tir.
Ymhell tu hwnt i’r lan, mae teyrnas gudd yn llawn dirgelwch a rhyfeddod – yn hanfodol i’n bodolaeth, ond o dan fygythiad eithafol o newidiadau i’n hinsawdd a’r effaith ddynol ddiamheuol.
Dewch gyda ni ar daith amhosibl i weld y môr o safbwynt gwbl newydd wrth i ni eich crebachu i lawr i faint plancton bach iawn, dangos y byd i chi fel adlaisleoli a’ch ymdrochi mewn bioymoleuedd.
DROP IN THE OCEAN (BOCS)
Reidiwch sglefren fôr. Dewch i gwrdd â chrwban môr. Ewch wyneb yn wyneb gyda siarc morfilaidd. O safbwynt plancton bychan, byddwch chi’n archwilio’r môr mewn realiti rhithwir trawiadol – a gweld pam mae angen ei ddiogelu ar frys.
Profiad rhyngweithiol realiti rhithwir cymdeithasol yw Drop in the Ocean sy’n mynd â chi i lawr i ddyfnder morol y Parth Hanner Nos – ac yn syth i mewn i’r argyfwng llygredd plastig sy’n plagio moroedd y byd.
Wedi’i adrodd gan Philippe ac Ashlan Cousteau a’i greu gan Vision3 mewn partneriaeth â Conservation International. Wedi’i ysbrydoli gan waith Peter Parks, microffotograffydd sydd wedi ennill gwobrau Oscar.
CRITICAL DISTANCE (BOCS)
Profiad ymdrochol a rennir yw Critical Distance sy’n defnyddio realiti cymysg (MR) arloesol i ddod â chynulleidfaoedd i mewn i fyd orcaod Preswylwyr Deheuol gogledd-orllewin y Pasiffig yng Ngogledd America.
Drwy lygaid Kiki, orca wyth mlwydd oed sy’n cario disgwyliadau a dyfodol ei phod ar ei ysgwyddau, profwch sut mae’n cyfathrebu â’i theulu drwy adlaisleoli, a gyda’i gilydd yn wynebu’r peryglon dyddiol sy’n bygwth ei ‘J-Pod’ enwog.
Mae Critical Distance yn gorffen yn obeithiol, gan roi cenhadaeth i gynulleidfaoedd i helpu i ddiogelu Kiki, ei theulu a’i chartref yn y môr.
Wedi’i adrodd gan Jamie Margolin a’i greu gan Vision3 mewn partneriaeth â Microsoft, ac yn cynnwys dyluniad sain gan Aaron Day.
INTERACTIVE OCEANS (AR HYD A LLED CANOLFAN MILENIWM CYMRU)
Ewch ar helfa ddigidol a defnyddiwch eich dyfeisiau symudol i ddatgelu rhai o greaduriaid morol mwyaf nodedig y byd – yn rhy fychan i lygaid pobl eu gweld! Archwiliwch ein sgrin tafluniadau rhyngweithiol i ddarganfod hud bioymoleuedd a defnyddiwch eich corff cyfan i greu tonau.