Beth wyt ti'n edrych am?
Judy & Liza
Dyddiad(au)
08 Meh 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Gwelir Judy Garland a Liza Minnelli yn aduno yn y profiad cerddorol arbennig yma.
Mewn cynhyrchiad gwefreiddiol cawn stori gythryblus dwy o sêr fwyaf Hollywood, a hynny yng nghyd-destun eu cyngerdd drwg-enwog yn y London Palladium ym 1964. Bydd sêr y West End, Emma Dears a Helen Sheals yn disgleirio wrth ganu caneuon fwyaf enwog y ddwy.
Gyda pherfformiadau o Cabaret, Maybe This Time, The Trolley Song a The Man That Got Away ymhlith y caneuon. Bydd y gynulleidfa’n mynd ar daith emosiynol ac yn darganfod y tebygrwydd sydd rhwng rhai o ganeuon fwyaf eiconig Judy a Liza a’u bywydau cythryblus.
Treuliwch noson yng nghwmni’r fam a’r ferch sy’n cyfleu gwir ystyr y gair ‘showbiz’.