Beth wyt ti'n edrych am?
Just My Imagination
Dyddiad(au)
11 Ebr 2024
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Paratowch i ddawnsio a chanu i ganeuon diamser sêr Motown The Temptations, yn Just My Imagination – dathliad o un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus mewn hanes cerddoriaeth boblogaidd.
Mae’r sioe yn mynd â’r gynulleidfa yn ôl i gyfnod y grŵp, a bydd yn teithio i theatrau ledled y DU yn 2024, gan ddod â chaneuon hollbresennol The Temptations – gan gynnwys ‘Get Ready’, ‘My Girl’, ‘Just My Imagination’ a ‘Papa Was a Rollin’ Stone’ – i’r llwyfan.
Mae Just My Imagination yn dathlu cyngerdd na fu erioed – gan gyfleu cyfnod ‘Classic Five’ y band a oedd yn cynnwys David Ruffin, Otis Williams, Eddie Kendricks, Melvin Franklin a Paul Williams, a dyna pryd cawsant eu llwyddiant cyntaf gyda ‘The Way You Do the Things You Do’.
Yna, mae’r sioe yn mynd ymlaen i ddathlu’r caneuon diamser o hanes y band. Caiff y cynhyrchiad gwreiddiol yma ei ysbrydoli gan gyflymder ac egni y sioe Broadway lwyddiannus ‘Ain’t Too Proud’ a gafodd 12 o enwebiadau am wobr Tony yn 2019.
Gyda chast o berfformwyr dynamig o’r West End a rhai o gerddorion mwyaf talentog y DU, mae Just My Imagination yn dod â noson ffres, fywiog a digyffelyb o hud canu a dawnsio i theatrau ledled y DU yn 2024.