Beth wyt ti'n edrych am?
Kinky Boots
Dyddiad(au)
18 Maw 2025 - 22 Maw 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae ffenomenon Broadway a’r West End, Kinky Boots The Musical, yn strytian ‘nôl i Gaerdydd mewn cynhyrchiad newydd sbon gyda Johannes Radebe o Strictly Come Dancing a’r seren newydd Dan Partridge.
Mae’r sioe syfrdanol yma, sy’n seiliedig ar stori wir a ffilm lwyddiannus, yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan yr eicon pop Cyndi Lauper sydd wedi ennill gwobr Tony a Grammy, llyfr doniol a chadarnhaol gan yr enillydd gwobr Tony Harvey Fierstein ac mae wedi’i chyfarwyddo gan Nikolai Foster (Grease ac An Officer and a Gentleman).
Ar ôl etifeddu ffatri esgidiau ei deulu, sy’n methu, a gyda pherthynas sy’n chwalu, mae bywyd yn heriol iawn i Charlie Price, nes iddo gwrdd â Lola, brenhines drag efallai y bydd ei disgleirdeb a’i sodlau simsan yn gallu achub y busnes sydd mewn trafferth.
Peidiwch â cholli Kinky Boots the Musical, sy’n siŵr o godi’ch calon a dathlu unigoliaeth pawb.