Neidio i'r prif gynnwys

Kizza: BigFunkyMagicMan

Dyddiad(au)

21 Med 2024

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gyda digon o drychinebau hudol absẃrd o anhrefnus, darlleniadau meddwl cwbl ddwl, a chwerthin mawr, mawr – dyma sioe hud gomedi i oedolion!

Paratowch am daith ddoniol orwyllt ar chwyrligwgan gan y dewin comedi clodwiw, KIZZA. Ar ôl synnu cynulleidfaoedd o Marrakech i Trinidad a’r tu hwnt, dewch i weld y gwallgofddyn byd-enwog yma’n gwneud ei giamocs yng Nghaerdydd.

Dylech ddisgwyl yr annisgwyl, gwobrau ofnadwy, nonsens cyffrous, a stwff syfrdanol sy’n gwneud i chi holi ‘sut wnaeth e hynny?’.