Beth wyt ti'n edrych am?
Lea Salonga | Stage, Screen & Everything In Between
Dyddiad(au)
25 Meh 2024
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Lea Salonga, brenhines theatr gerdd a seren swyddogol Disney, yn dod â’i thalent eithriadol yn ôl i’r DU gyda’r daith newydd Stage, Screen & Everything In Between.
Bydd Lea yn dychwelyd i’r Theatre Royal Drury Lane – y lleoliad eiconig lle 35 mlynedd yn ôl daeth hi’n enwog fel y Miss Saigon gwreiddiol – cyn dod â’i llais anhygoel i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Bydd cefnogwyr yn clywed caneuon poblogaidd o’r llwyfan a’r sgrin o rolau mwyaf adnabyddus Lea yn Miss Saigon, Les Miserables, Aladdin a Mulan, yn ogystal â ffefrynnau newydd gan y diweddar Stephen Sondheim, y talodd deyrnged iddo yn llwyddiant y West End, Old Friends.