Beth wyt ti'n edrych am?
Les Ballets Trockadero de Monte Carlo
Dyddiad(au)
12 Mai 2026 - 13 Mai 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ers bron i 50 mlynedd, mae’r cwmni ballet comedi gwrywaidd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo (sydd hefyd yn cael eu galw’n “The Trocks”) wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd o bob oed mewn perfformiadau sy’n gwerthu allan gyda’u hymdeimlad anhygoel o hwyl a’u dawnsiau perffaith.
Yn wreiddiol o Efrog Newydd, mae pobl ledled y byd bellach yn dwli ar y Trocks a’u parodïau sosi a’u teyrngedau doniol i ballet clasurol.
Mae pob perfformiad yn gorlifo gyda thwtwau a thestosteron, esgidiau ballet pinc, amrannau ffug ffyrnig ac agwedd prima ballerina. Ond, beth sy’n gwneud y cwmni yma yn eithriadol o arbennig yw eu techneg pur a’u cnawdolrwydd beiddgar, sydd ond wedi’u trechu gan eu hamseru doniol perffaith.