Neidio i'r prif gynnwys

The Lion, The Witch and the Wardrobe

Dyddiad(au)

11 Chwe 2025 - 15 Chwe 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Paratowch ar gyfer antur oes wrth i gynhyrchiad llwyddiannus y West End o The Lion, the Witch and the Wardrobe ddod i Gaerdydd ym mis Chwefror 2025.

Camwch drwy’r wardrob i deyrnas hudol Narnia lle mae byd o ryfeddodau yn aros amdanoch chi.

Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddyn nhw gwrdd â ffrindiau newydd, wynebu gelynion peryglus a dysgu gwersi am ddewrder, aberth a phŵer cariad.

Gwyliwch y nofel boblogaidd The Lion, the Witch and the Wardrobe yn dod yn fyw ar y llwyfan yn y cynhyrchiad trawiadol yma sy’n siŵr o gyfareddu pobl o bob oed.