Neidio i'r prif gynnwys

Llwybr Hanner Tymor Calan Gaeaf yn Sain Ffagan

Dyddiad(au)

29 Hyd 2022 - 06 Tach 2022

Amseroedd

10:00 - 15:00

Lleoliad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, St Fagans, Caerdydd CF5 6XB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bŵ! Mae’n Galan Gaeaf! A dyma’r lle i ddiddanu eich coblynnod bach dros hanner tymor, gyda’n Llwybr Calan Gaeaf.

Dewch i nôl taflen, a dilyn y cliwiau i ddod o hyd i’r pwmpenni sy’n cuddio o gwmpas yr Amgueddfa.

Gwnewch luniau wynebau yn y pwmpenni, chwiliwch am y llythrennau wrth ymyl y pwmpenni i ddatrys y pos, cyn mynd nôl i’r siop i gasglu eich gwobr.

 

Beth fydda i’n gael?

  • Taflen A4 liwgar.
  • Os cewch chi drafferth, mae cod QR defnyddiol i’ch helpu!
  • Danteithion siocled (ar ôl cwblhau’r llwybr). Opsiwn heb gynnyrch llaeth ar gael.

Lle alla i gael y daflen? 

  • Bydd y daflen ar gael yn yr Atriwm wrth i chi gyrraedd.
  • Dim angen archebu ymlaen llaw.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae’r weithgaredd hon yn ddwyieithog.
  • Addas i blant 4+ oed; efallai bydd plant iau angen help.
  • Cost: £3.50 (yn cynnwys un daflen ac un wobr siocled.) Mae croeso i chi gwblhau’r gweithgaredd fel teulu neu brynu un yr un.
  • Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau eco-gyfeillgar a byddwn yn eu defnyddio eto.
  • Gostyngiad o 10% i aelodau  Amgueddfa Cymru.