Beth wyt ti'n edrych am?
Locomotive For Murder: The Improvised Whodunnit
Dyddiad(au)
21 Gorff 2024
Amseroedd
14:30 - 15:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Neidiwch ar fwrdd y trên ar gyfer y sioe ddirgelwch ddoniol yma – sy’n unigryw bob tro – lle mae lladd y cast a datrys y dirgelwch yn eich dwylo chi. Mae pedwar cymeriad yn camu ar y trên, ond nid pawb fydd yn goroesi. Pwy yw’r llofrudd? Dim ond un person sy’n gwybod: y llofrudd!
Grŵp comedi wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Llundain yw Pinch Punch. Dyma fydd eu tro cyntaf yn Cabaret (hwrê!) gyda’u sioe ddirgelwch cwbl fyrfyfyr ac unigryw a fydd yn mynd gyda nhw i Gaeredin dros yr haf. Wedi cyrraedd Rownd Derfynol Offies 2024!