Beth wyt ti'n edrych am?
Luisa Omielan | Bitter
Dyddiad(au)
06 Ebr 2024
Amseroedd
20:30 - 22:45
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Chi’n gwbod bod y byd ddim yn ‘neud unrhyw sens.
A dyw gweithio’n galed a gwneud y peth iawn ddim yn ddigon mwyach. A dweud y gwir, mae’n ymddangos bod pawb sydd mewn Pŵer naill ai’n maniac hunanol neu mae ganddyn nhw’r un asgwrn cefn moesol â physgodyn gwlyb llipa. Ydy hi’n syndod bod mwy o fenywod yn aros yn sengl ac yn dewis peidio cael plant? Nid fi, nid drwy ddewis beth bynnag. Dwi’n sengl ac yn ddi-blant diolch i fy nghi sy’n cocblocio fi. Mae hi’n eiconig ond yn amddiffynnol iawn.
Helo, Luisa Omielan ydw i. Dyw dilyn y rheolau heb weithio, dwi wedi trio. Mae’r gêm yn teimlo fel ei bod wedi’i rigio. Ond gallwch chi ddim dweud hynny. Jest gwenwch. Ysgrifennwch ddyddiadur diolchgarwch a dewch i’r golwg.
Ydw i’n filain? Wrth gwrs fy mod i. Ydych chi’n grac? Dylech chi fod.
Ai sioe gomedi yw hon? Yn bendant.
Mae Luisa Omielan yn gomedïwr cryf. Hi oedd enillydd comedi cyntaf gwobr Breakthrough BAFTA, mae wedi cael pedair sioe lwyddiannus gan gynnwys God is a Woman, rhediadau yn y West End a werthodd allan ac mae wedi serennu ar Live at the Apollo; mae hyd yn oed wedi cael ei disgrifio fel un o sêr stand-yp y degawd gan The Guardian.
Mae Luisa wedi dioddef blynyddoedd o bobl yn dweud wrthi ei bod hi’n rhy swnllyd, yn rhy eithafol ac yn rhy emosiynol. Ond, i’r gwrthwyneb, mae ei chynulleidfaoedd yn dweud wrthi ei bod hi’n anhygoel, yn ddoniol iawn, yn newid bywydau ac yn seren.
Mae wedi cael digon a dyw hi ddim yn becso dam mwyach. Os nad yw dilyn y rheolau yn y llyfr yn gweithio i ni, efallai ei bod hi’n amser i ni ysgrifennu rhai newydd.