Neidio i'r prif gynnwys

Madagascar – The Musical

Dyddiad(au)

27 Meh 2024 - 30 Meh 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â’ch hoff ffrindiau wrth iddyn nhw ddianc o’u cartref yn Sw Central Park Efrog Newydd a ffeindio’u hunain ar daith annisgwyl i fyd gwirion Madagascar King Julien.

Alex y llew yw brenin y jyngl trefol, y prif atyniad yn Sw Central Park Efrog Newydd. Mae ef a’i ffrindiau gorau – Marty y sebra, Melman y jiráff a Gloria yr hipo – wedi treulio eu holl fywydau mewn caethiwed llon o flaen cyhoedd edmygol gyda phrydau rheolaidd yn cael eu darparu iddyn nhw. Ond, mae chwilfrydedd Marty yn mynd yn drech nag ef ac mae’n dianc – gyda help rhai pengwiniaid rhyfeddol – i archwilio’r byd.

Ymunwch ag Alec, Marty, Melman, Gloria a’r pengwiniaid cyfrwys a doniol, wrth iddyn nhw gamu ar y llwyfan mewn antur gerddorol. Yn llawn cymeriadau rhyfeddol, anturiaethau a sgôr bywiog, bydd dim dewis gennych ond mwynhau!