Beth wyt ti'n edrych am?
Madness
Dyddiad(au)
01 Meh 2022
Amseroedd
17:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
MADNESS I HEDLEINIO CASTELL CAERDYDD YR HAF HWN
BYDD CEWRI’R BYD POP YN CHWARAE’R LLEOLIAD EICONIG AR 1 MEHEFIN 2022
Bydd y cewri pop Madness yn hedleinio prifddinas Cymru yr haf hwn.
Wedi aros yn amyneddgar i gerddoriaeth fyw ddychwelyd, mae’r ‘Nutty Boys’ o’r diwedd yn dychwelyd i wneud beth maen nhw’n ei wneud orau – dod â phawb at ei gilydd am barti byw gwyllt. A chyda rhestr chwarae llawn hits o’u catalog digyffelyb, mae’n addo bod yn noson a hanner.
Daeth Madness i’r amlwg yn strydoedd cefn Camden Town ar ddiwedd y 70au, ac yn ddiweddar maent wedi rhyddhau cyfres ddogfen wreiddiol 3-rhan am ddyddiau cynnar y band yn yr ardal; mae Before We Was We: Madness by Madness, yn croniclo twf un o fandiau mwyaf poblogaidd diwylliant Prydain.
Yn ystod eu gyrfa, mae Madness wedi gweld 10 o’u albymau a 15 sengl yn cyrraedd deg uchaf y DU ac wedi ennill nifer o wobrau – gan gynnwys Ivor Novello.
Maen nhw wedi perfformio ar ben Palas Buckingham fel rhan o ddathliadau Jiwbilî’r Frenhines a gosod record am y gynulleidfa fwyaf erioed ar gyfer Darllediad Nos Galan Byw’r BBC – y digwyddiad cerddorol a wyliwyd gan y nifer fwyaf ar y teledu yn 2018.
Bydd Madness yn dod i Gaerdydd drwy DEPO Live, cangen digwyddiadau byw The DEPOT– un o leoliadau digwyddiadau mwyaf llwyddiannus Caerdydd.