Neidio i'r prif gynnwys

Marchnad Nadolig Caerdydd 2023

Dyddiad(au)

09 Tach 2023 - 23 Rhag 2023

Amseroedd

10:00 - 18:00

Lleoliad

Canol y Ddinas Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn wahanol i’r Marchnadoedd Nadolig a welwch mewn dinasoedd eraill, pan fyddwch yn ymweld â Chaerdydd, gallwch fod yn sicr y byddwch yn prynu gwaith gwreiddiol gan bob un o’n gwneuthurwyr talentog: gemwaith arian unigryw, anrhegion pren wedi’u turnio, gwaith celf gwreiddiol ar draws pob cyfrwng, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg a wnaed â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, anrhegion pewter traddodiadol, ac ati ynghyd ag amrywiaeth o fwyd a diod tymhorol i greu awyrgylch Nadolig bywiog.  Gallwch hefyd sgwrsio â nhw am eu gwaith, y broses o’i lunio, a thrafod comisiynau os dymunwch.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu llwyfan i artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod arddangos a gwerthu eu gwaith eithriadol yn uniongyrchol i’r cyhoedd.

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n bwysicach nag erioed i ddiogelu ein treftadaeth celf a chrefft, er mwyn sicrhau bod lle bob amser mewn manwerthu ar gyfer gwreiddioldeb ac amrywiaeth.

Wrth i ni groesawu’r arddangoswyr sy’n dychwelyd i’r farchnad, nid oes yr un ohonynt yn llaesu dwylo.   Gan mai eu crefft yw eu busnes hefyd, maen nhw bob amser wrthi’n creu gwaith newydd gan sicrhau bod eu stondinau bob amser yn edrych yn ffres ac yn arloesol.    Byddwch hefyd yn gweld llawer o wynebau newydd, yn profi’r farchnad gyda’u gwaith eu hunain yn ein Stondinau Blasu, sydd wedi’u lleoli yn Heol y Drindod.

Bydd rhestr gynhwysfawr o’r holl gyfranogwyr yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan yn nes at ddechrau’r farchnad gan gynnwys eu dyddiadau masnachu, a rhif eu stondinau, gan nad yw pawb yn cymryd rhan yn y  digwyddiad cyfan.