Beth wyt ti'n edrych am?
Matthew Bourne’s Swan Lake
Dyddiad(au)
22 Ebr 2025 - 26 Ebr 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Matthew Bourne’s Swan Lake yn dychwelyd i ddathlu ei 30 mlwyddiant gyda thaith o’r DU yn 2024/25.
Gwnaeth ailddychmygiad mentrus a beiddgar Matthew Bourne o gampwaith Tchaikovsky greu cyffro pan agorodd bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae bellach wedi dod yn un o’r cynyrchiadau theatr dawns fwyaf llwyddiannus erioed, gan greu cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli cenedlaethau o ddawnswyr ifanc. I ddathlu’r effaith barhaus honno, bydd Swan Lake yn dychwelyd unwaith eto mewn adfywiad newydd mawr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr, ac i gynulleidfaoedd a fydd yn ei brofi am y tro cyntaf erioed.
Mae’r digwyddiad arloesol yma, sy’n gyffrous, yn anturus, yn ffraeth ac yn emosiynol, yn fwyaf adnabyddus o hyd am newid y corps-de-ballet benywaidd i ensemble gwrywaidd bygythiol, a chwalodd confensiwn a thraddodiad.
Ar ôl cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Sadler’s Wells yn Llundain yn 1995, ysgubodd Matthew Bourne’s Swan Lake y byd theatr; dyma’r clasur dawns hyd llawn sydd wedi rhedeg am y cyfnod hiraf yn y West End ac ar Broadway. Ers hynny mae wedi cael ei berfformio ledled y byd, gan gasglu dros 30 o anrhydeddau rhyngwladol gan gynnwys Gwobr Olivier am y Cynhyrchiad Dawns Newydd Gorau a thair Gwobr Tony am y Cyfarwyddwr Gorau o Sioe Gerdd, Coreograffi Gorau a Dyluniad Gwisgoedd Gorau.