Beth wyt ti'n edrych am?
Michael Ball
Dyddiad(au)
29 Med 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
GLOW – TAITH Y DU
Mae prif seren theatr gerdd Prydain Michael Ball yn dod i Gaerdydd!
Bydd y canwr sydd wedi ennill dwy wobr Olivier yn mynd ar daith ledled y DU yn 2026 ochr yn ochr â’i albwm unigol newydd sbon ‘Glow’.
Dywedodd Michael Ball: “Mae’n debyg mai dim ond un peth dw i’n ei fwynhau yn fwy na bod yn y stiwdio – ysgrifennu, cynhyrchu, a chanu caneuon gyda phobl dw i’n eu caru – a hynny yw mynd â’r cyfan ar daith a pherfformio’r caneuon hynny yn ogystal â’r holl hen ffefrynnau i’r cynulleidfaoedd dw i’n eu caru. Dw i’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r albwm newydd, a dw i’n gobeithio y byddwch chi’n dod i’n gweld ni ar y daith y flwyddyn nesaf. Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous, ac alla i ddim aros i’ch gweld chi i gyd”.