Beth wyt ti'n edrych am?
Mike Bubbins
Dyddiad(au)
12 Tach 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ideas Man / Dyn Syniadau, enw: ‘Person sy’n arbennig o dda am feddwl am syniadau newydd neu wreiddiol.’ Dyna beth yw Mike Bubbins. Ddim yn hoff o waith papur. Ddim yn ddyn trefnus. Ddim yn ddyn arbennig o ymroddedig. Mae’r daith gomedi hon, er enghraifft, yn dangos hynny. Mae gan Mike lwyth o straeon doniol iawn. Mae e’n wych am eu dweud nhw. Felly roedd ganddo’r syniad o rannu’r straeon hynny gyda phobl, i wneud iddyn nhw chwerthin yn uchel a chael noson allan wych. Er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, mae wedi gadael pob peth arall sydd angen ei wneud i bobl eraill. Heblaw’r enw. IDEASMAN oedd ei syniad e.
Mae Mike Bubbins yn ddigrifwr, actor, awdur a darlledwr o Gymru. Fe yw crëwr, cydawdur a seren rhaglen gomedi boblogaidd y BBC Mammoth. Pan gafodd ei ddarlledu gyntaf, cyfres gyntaf Mammoth oedd y gyfres gyntaf fwyaf poblogaidd ar BBC2 o ran rhaglenni comedi ers pum mlynedd. Bydd cyfres dau yn cael ei dangos ym mis Rhagfyr 2025.
Mae Mike yn un o gyflwynwyr The Socially Distant Sports Bar. Wedi’i lansio yn ystod y cyfnod clo yn 2020 pan nad oedd chwaraeon byw, daeth y podlediad yn boblogaidd iawn ac ar ôl pum mlynedd a bron i 300 o benodau, gan ddod yn un o’r podlediadau sydd â’r nifer uchaf o danysgrifwyr Patreon yn y DU, a chynnal dwy daith a sioeau arena llwyddiannus, mae’n dal i fynd yn gryf.
Yn olaf, ac er ei fod efallai yn chwythu ei gorn ei hun, mae Mike yn eithaf siŵr mai fe yw’r unig berfformiwr, awdur ac actor comedi yn y byd sydd, yn ogystal â bod yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol, hyfforddwr ac athro addysg gorfforol, hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Perfformwyr Teyrnged Elvis Ewrop. Wir nawr.