Beth wyt ti'n edrych am?
Gweithdy Gerddi Coetir Bach
Dyddiad(au)
26 Maw 2024 - 02 Ebr 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn galw ar naturiaethwyr ifanc!
Ymunwch â’r gofalwyr yn y ganolfan ymwelwyr am y gweithdy hwyliog hwn lle gall plant greu eu cynefinoedd bach eu hunain. Caiff y plant fynd â’r gerddi bach adref â nhw a’u meithrin i weld pa greaduriaid y maent yn eu denu.
Bydd y plant yn cael pot planhigion (cofiwch, bydd hwn yn drwm!) ynghyd â’r holl ddeunyddiau angenrheidiol i greu’r ardd. Bydd yna gyfle i beintio ffwng o bren, gan ddefnyddio ‘canllaw adnabod ffwng Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien’. Neu ewch amdani i greu eich ffwng eich hun!