Beth wyt ti'n edrych am?
Miriam Margolyes | Oh Miriam! Live
Dyddiad(au)
21 Gorff 2024
Amseroedd
19:30 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch aton ni ar antur fythgofiadwy eto drwy fywyd rhyfeddol a barn gref Miriam Margolyes, yn fyw ar lwyfan ar ei thaith fwyaf hyd yma i nodi lansio ei llyfr newydd.
Yn actores enillodd BAFTA, llais popeth o Monkey i Gwningen Caramel Cadbury, crëwr myrddiwn o gymeriadau bythgofiadwy o Lady Whiteadder i Professor Sprout, mae Miriam yn un o’r actorion hawsaf eu nabod sy’n gweithio heddiw.
O gael ei danfon oddi ar raglen Today (am ddweud be oedd yn ein meddyliau ni i gyd) i gyfaddef ei chariad at Vanessa Redgrave; o Tales of the Unexpected i soffa Graham Norton, hi ydi ein trysor cenedlaethol anwylaf a mwyaf di-flewyn-ar-dafod – ac mae Oh Miriam! yn mynd â chi i’w phen ac i ddwfn ei chalon.
Yn bendifaddau’n ddigon i ddychryn y saint ac yn ddifyr bob gafael, mae Miriam yn eich aros chi am sgwrs, i noson dros ben llestri, cyn llawned o fywyd a throeon annisgwyl ag ydi’r actores ei hun.