Beth wyt ti'n edrych am?
Miss Saigon
Dyddiad(au)
02 Meh 2026 - 06 Meh 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Michael Harrison mewn cydweithrediad â Cameron Mackintosh yn cyflwyno cynhyrchiad newydd ysblennydd o MISS SAIGON wrth i sioe gerdd Boublil a Schönberg gael ei haileni.
Mae’r sgôr yn cynnwys caneuon poblogaidd fel “The Heat is On in Saigon”, “The Movie in My Mind”, “Last Night of the World” a “The American Dream”.
Fel rhan o daith fawr ledled y DU ac Iwerddon, mae’r cynhyrchiad epig yma yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mehefin 2026.
Yn nyddiau olaf Rhyfel Fietnam, mae Kim, sy’n 17 oed, yn cael ei gorfodi i weithio mewn bar yn Saigon sy’n cael ei redeg gan gymeriad drwg-enwog sy’n cael ei adnabod fel The Engineer. Yno mae hi’n cwrdd ac yn syrthio mewn cariad â GI Americanaidd o’r enw Chris, ond maen nhw’n cael eu gwahanu yn ystod cwymp Saigon. Am 3 blynedd mae Kim yn mynd ar daith oroesi epig i ffeindio ei ffordd yn ôl i Chris, sydd â dim syniad fod ganddo fab.