Beth wyt ti'n edrych am?
Mrs Doubtfire
Dyddiad(au)
23 Maw 2027 - 11 Ebr 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Shw’mae, poppets! Mrs Doubtfire yw sioe gerdd gomedi lwyddiannus y West End sy’n seiliedig ar y ffilm boblogaidd, sy’n dod i Gaerdydd o 23 Mawrth 2027.
Mae’r sioe wirioneddol ddoniol yma yn cynnwys yr holl eiliadau eiconig rydych chi’n dwli arnyn nhw, yn ogystal â chaneuon newydd ardderchog a dawnsio disglair! Gyda’i gilydd, mae gennych chi lwyddiant ysgubol na ddylech ei golli.
Byddai’r actor allan o waith Daniel (sy’n cael ei chwarae gan Gabriel Vick o gwmni gwreiddiol Llundain) yn gwneud unrhyw beth i’w blant. Ar ôl colli gwarchodaeth mewn ysgariad cymhleth, mae’n creu persona newydd, sef y nani Albanaidd Euphegenia Doubtfire, mewn ymgais byrbwyll i aros yn eu bywydau. Wrth i’w gymeriad newydd ddatblygu bywyd ei hun, mae Mrs Doubtfire yn addysgu mwy i Daniel nag oedd yn ei ddisgwyl am sut i fod yn dad.