Neidio i'r prif gynnwys

Neighbours – The 40th Anniversary Tour

Dyddiad(au)

16 Chwe 2025

Amseroedd

19:30 - 22:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn llwyddiant ysgubol The Celebration Tour a werthodd allan, mae Neighbours yn dychwelyd i’r llwyfan, gyda lein-yp newydd, straeon newydd a rheswm newydd sbon i ddathlu.

Ymunwch â rhai o’ch hoff wynebau o Ramsay Street wrth iddyn nhw ddathlu pedwar degawd o hanes y sioe, ar gyfer Neighbours – The 40th Anniversary Tour.

Gallwch chi ddisgwyl syrpreisys, straeon nad ydych chi wedi’u clywed o’r blaen a syniad o sut mae bywyd yn Erinsborough. Wedi’i gyflwyno gan Leah Boleto, dyma fydd y llwncdestun gorau i dros 9,000 o benodau o Neighbours.