Goleuni Newydd ar Gwen John: Trafodaeth

Dyddiad(au)

11 Meh 2026

Amseroedd

11:00 - 16:30

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd y gyfres hon o sgyrsiau a thrafodaethau yn narlithfa hanesyddol Reardon Smith yn taflu goleuni newydd ar ei gweledigaeth artistig rymus ac anarferol Gwen.

Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar gasgliad rhyfeddol Amgueddfa Cymru o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gafodd eu gadael yn ei stiwdio ym Mharis ar ôl iddi farw. Mae’r casgliad yn ein hannog i edrych o’r newydd, a deall yn well un o artistiaid pwysicaf Cymru, ac un o’r enwocaf yn rhyngwladol.

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan staff Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Lucy Wood, Uwch Guradur Celf a Churadur ⁠ ⁠ Gwen John: Hardd a Hynod ⁠; Fiona McLees, Uwch Gadwraethydd Papur; Rachel Beard, Uwch Gadwraethydd Paentiadau; a Helena Anderson, Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bryste ac Amgueddfa Cymru.