Neidio i'r prif gynnwys

Nick Mason’s Saucerful of Secrets

Dyddiad(au)

24 Meh 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Nick Mason’s Saucerful of Secrets yn dychwelyd i’r DU ym mis Mehefin.

Ar ôl chwarae’n fyw yn y DU y tro diwethaf ym mis Mai 2022 gyda’r daith Echoes, maen nhw wedi chwarae nifer fawr o sioeau yn UDA ac Ewrop gan gynnwys sioe yn Pompeii ym mis Awst y llynedd – lleoliad sydd wrth gwrs yn gyfystyr â cherddoriaeth Pink Floyd.

Aelodau Nick Mason’s Saucerful of Secrets, a ffurfiwyd yn 2018, yw Nick Mason, Gary Kemp, Guy Pratt, Lee Harris a Dom Beken ac maen nhw’n chwarae gwaith cynnar poblogaidd ac arwyddocaol Pink Floyd o gyfnod ‘The Piper At The Gates of Dawn’ o 1967 hyd at ‘Obscured By Clouds’ o 1972 sydd wedi cynnwys fersiwn o’r gân epig 23 munud, ‘Echoes’.

Ychydig iawn o fandiau sydd mor ddiwylliannol bwysig â Pink Floyd. Nhw yw un o’r artistiaid cerddorol sydd wedi gwerthu orau. Mae Nick Mason yn gyd-sylfaenydd ac ef yw unig aelod cyson y band sydd wedi perfformio ar bob albwm yn ogystal â phob sioe fyw.