Beth wyt ti'n edrych am?
Only Fools and Horses: The Hit Musical
Dyddiad(au)
12 Mai 2025 - 17 Mai 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r Trotters yn ôl ac yn dod i Gaerdydd yn y sioe lwyddiannus Only Fools and Horses The Musical – yn syth o rediad bedair blynedd yn y West End yn Llundain a werthodd allan a thorrodd recordiau – gyda Del Boy, Rodney, Grandad, Cassandra, Raquel, Boycie, Marlene, Trigger, Denzil a Mickey Pearce.
Yn seiliedig ar sioe deledu John Sullivan, mae’r sioe gerdd ysblennydd arobryn yma yn cynnwys rhai o hoff olygfeydd pawb o gyfres deledu fwyaf poblogaidd Prydain. Gyda sgript a sgôr gwreiddiol wedi’u hysgrifennu gan fab John Jim Sullivan a seren y byd comedi Paul Whitehouse, paratowch i ymgyfarwyddo unwaith eto â thwyllwyr mwyaf annwyl Prydain a phrofi’r gomedi yn dod yn fyw ar y llwyfan drwy sgript ddyfeisgar a 20 o ganeuon doniol.
Ymunwch â ni wrth i ni deithio nôl mewn amser, lle mae pethau’n fywiog yn Peckham. Tra bod mewnlifiad ‘yuppie’ Llundain ar ei anterth, mae cariad ar y ffordd wrth i Del Boy gychwyn ar daith i ddod o hyd i’w enaid hoff cytûn, mae Rodney a Cassandra yn paratoi ar gyfer eu priodas, ac mae hyd yn oed Trigger wedi llwyddo i drefnu dêt (gyda pherson!). Yn y cyfamser, mae Boycie a Marlene yn rhoi un cynnig olaf ar fod yn rhieni ac mae Grandad yn pwyso a mesur ei fywyd ac yn penderfynu bod yr amser wedi dod i gael gwared ar ei beils.
Gyda chyfraniadau cerddorol gan Chas & Dave, yr arwyddgan boblogaidd fel nad ydych chi erioed wedi’i chlywed o’r blaen a chasgliad o ganeuon newydd sbon sy’n llawn cymeriad a dengarwch cocni, rydych chi’n siŵr o gael parti! Mae Only Fools and Horses The Musical yn ddathliad teuluol twymgalon o fywyd dosbarth gweithiol traddodiadol yn Llundain yn 1989 a’r dyheadau rydyn ni i gyd yn eu rhannu.
Felly peidiwch ag oedi, rhowch ganiad a mynnwch docyn ar gyfer noson wirioneddol wych – dim ond PLONCER 42 carat fyddai’n colli allan!