Neidio i'r prif gynnwys

Opera | Peter Grimes

Dyddiad(au)

05 Ebr 2025 - 11 Ebr 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Tonnau trasiedi yn corddi’r dyfroedd.

Stori am unigedd a rhagfarn yw Peter Grimes. Wedi’i gynhyrfu gan sïon ac amheuaeth, mae pysgotwr yn brwydro â chythreuliaid mewnol wrth i’r gymuned leol droi yn ei erbyn. Ond beth wnaeth ddigwydd i’w brentis? Datgelwch storiâu dirgel pentref arfordirol, lle mae’r môr yn sibrwd cyfrinachau a phawb yn credu eu bod yn gwybod eich hanes, wrth i drasiedi ddatblygu yn erbyn cefndir bygythiol o donnau alawol, grymus.

Daw opera eiconig Britten, sy’n fwrlwm o gorysau dramatig, unawdau cyffrous a’r enwog Sea Interludes, yn fyw yn y cynhyrchiad newydd yma gan WNO, lle mae grymoedd natur yn gwrthdaro â llymder ymddygiad dynol. Plymiwch i fôr gwyllt a storm o emosiynau gyda’r perfformiad yma sy’n para yn llawer hirach na’r nodyn olaf.