Owain & Henry

Dyddiad(au)

05 Tach 2026 - 28 Tach 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch.

Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV. Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.

Wedi’i ysgrifennu gan Gary Owen (Iphigenia in Splott), dramodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobr Olivier, mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol.