Beth wyt ti'n edrych am?
PONTYPOOL
Dyddiad(au)
30 Hyd 2024 - 09 Tach 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dim. Gair. Wrth neb.
Roedd y DJ radio Grant Mazzy yn arfer bod yn frenin y tonnau awyr, ond mae ei geg fawr a’i ego hyd yn oed yn fwy wedi golygu ei fod wedi gorfod gadael y gorsafoedd cenedlaethol, ac mae bellach yn gweithio i Beacon Radio, gorsaf anhysbys Pont-y-pŵl yng nghymoedd y de.
Ar Ddydd Santes Dwynwen, sy’n eira i gyd, mae Mazzy a’i dîm yn paratoi ar gyfer sioe frecwast arall yn llawn newyddion, tywydd, traffig a galwadau. Ond, mae pethau’n troi’n annifyr wrth i adroddiadau dryslyd gyrraedd am derfysgoedd a thorfeydd yn parablu yn y dref.
Mae panig yn lledaenu. Mae arswyd yn agosáu. A all Mazzy aros ar yr awyr i wneud synnwyr o bopeth, neu a fydd Pont-y-pŵl yn tawelu?
Yn seiliedig ar y ddrama radio wreiddiol gan Tony Burgess a ysbrydolodd y ffilm arswyd gwlt o 2008, mae Pontypool yn addasiad llwyfan newydd o’r stori a drawsnewidiodd y genre sombi.
Wedi’i addasu i’r llwyfan gan Hefin Robinson a’i gyfarwyddo gan Dan Phillips, gyda dyluniad sain ymdrochol gan Ben Samuels.
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru.