Beth wyt ti'n edrych am?
Pretty Woman: The Musical
Dyddiad(au)
29 Ebr 2024 - 04 Mai 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Pretty Woman: The Musical yn mynd ar daith ledled y DU ac Iwerddon o’r diwedd, felly gwnewch nodyn o’r dyddiad i weld rom-com gorau Hollywood, yn fyw ar y llwyfan, pan fydd y sioe gerdd arobryn yma yn ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru yng ngwanwyn 2024.
Ar ddiwedd yr 80au, cwrddodd Vivian ag Edward a newidiodd ei bywyd am byth. Byddwch yn rhan o’u rhamant yn y fersiwn theatraidd syfrdanol yma o’r stori gariad ddiamser, a dewch i adnabod y cymeriadau eiconig mewn ffordd newydd sbon mewn sioe anhygoel a fu’n llwyddiant ysgubol yn y West End yn Llundain, ac sy’n sicr o godi eich calon.
Gyda sgôr roc gan yr enillwyr Grammy® Bryan Adams a Jim Vallance (‘Summer of ’69’, ‘Heaven’), cyfarwyddyd a choreograffi gan enillydd gwobr Tony®, sef Jerry Mitchell (Kinky Boots, Hairspray), a llyfr gan gyfarwyddwr y ffilm wreiddiol Garry Marshall a’r sgrin-awdur J.F. Lawton, bydd y tîm creadigol pwerus sy’n cynrychioli goreuon y byd cerddoriaeth, Hollywood a Broadway yn sicrhau y byddwch chi’n cael amser hudol yn Pretty Woman: The Musical.