Beth wyt ti'n edrych am?
Priscilla Queen of the Desert
Dyddiad(au)
20 Ebr 2026 - 25 Ebr 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Priscilla Queen of the Desert, yn seiliedig ar y ffilm arloesol a enillodd wobr Oscar, ‘nôl gyda chynhyrchiad teithiol disglair newydd sbon i ddathlu ei 30 mlwyddiant.
Mae’r sioe gomedi gerddorol a greodd cynnwrf yn y West End ac ar Broadway yn dilyn tri ffrind ar daith ddoniol a thwymgalon ar draws Perfeddwlad Awstralia i lwyfannu sioe oes. Mae Priscilla Queen of the Desert yn ddathliad llawen o undod, cariad a bod yn chi eich hun heb ymddiheuro.
Gydag Adèle Anderson fel Bernadette, Kevin Clifton fel Tick/Mitzi, Nick Hayes fel Felicia/Adam a Peter Duncan fel Bob/Preacher, mae’r cynhyrchiad yma yn fwy beiddgar a bendigedig nag erioed.
Wedi’i gyfarwyddo gan yr enwebai Gwobr Olivier Ian Talbot OBE, gyda choreograffi anhygoel gan yr enillydd Gwobr Olivier Matt Cole, a gwisgoedd newydd prydferth gan yr enillydd BAFTA Vicky Gill, mae gan y strafagansa gerddorol yma drac sain yn llawn eich hoff anthemau disgo a dawns o’r 80au a 90au, gan gynnwys Hot Stuff, It’s Raining Men, I Will Survive, Girls Just Wanna Have Fun, Finally a llawer mwy.
Byddwch yn ffyrnig, byddwch yn anhygoel a pharatowch i ddawnsio unwaith eto!