Neidio i'r prif gynnwys

Queertet | Hanes LHDTCRh+ o Gerddoriaeth a Chân

Dyddiad(au)

04 Mai 2024

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Daw Queertet â rai o gerddorion LHDTCRh+ gorau Llundain ynghyd i ddathlu popeth cwiar o fyd jazz a theatr gerdd!

Dan arweiniad y sacsoffonydd arobryn ifanc, Tom Smith, mae Queertet yn adrodd stori caneuon gan gerddorion LHDTCRh+ arbennig drwy hanes, megis Stephen Sondheim, Ma Rainey, Cole Porter a Billy Strayhorn.

Fe berfformiodd Queertet yn helaeth yn ystod Pride 2018, gan deithio Llundain a gwerthu pob tocyn dwy sioe ym mar Ronnie Scott, gydag Ian Shaw, Julian Clary a Sharon D. Clarke. Maent hefyd wedi perfformio mewn lleoliadau megis Pizza Express Soho, Ystafell Elgar y Royal Albert Hall, ac yn Clapham Omnibus fel rhan o’u LGBTQI+ Festival 96.